Y castell sy’n enwog, ond y bobl yw’n henaid. Rydyn ni’n griw croesawgar – tref o weithwyr a gwneuthurwyr. Ac rydyn ni wastad wedi gwneud i bethau ddigwydd. Dyna pam rydyn ni’n trawsnewid y dref, i’w wneud yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld.
P’un ai eich bod yn byw yma, yn chwilio am eich cartref nesaf, yn adeiladu’ch busnes neu’n ymwelydd, Caerffili yw’r lle i chi.
Ffos Caerffili
Marchnad Caerffili. O fusnesau annibynnol i fasnachwyr lleol i weithleoedd hyblyg – mae Ffos Caerffili i bawb.
Castell Caerffili
Bydd prosiect £5 miliwn Cadw yn cryfhau a thrawsnewid Castell Caerffili i fod yn atyniad treftadaeth o safon fyd-eang.
Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus
Ailddatblygu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Caerffili mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru (TrC), gan greu cyfleoedd i drigolion ac ymwelwyr.
Pentrebane Street
Mae Linc Cymru, mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth Cymru, yn y broses o adeiladu ardaloedd busnes newydd a thai fforddiadwy.
Canolfan Ddiwylliannol Caerffili
Adfywio Neuadd y Gweithwyr i greu Canolfan Ddiwylliannol llawn bwrlwm, am ddim, yng nghalon y dref. Bydd y ganolfan yn dathlu’r iaith Gymraeg, ein hysbryd cymunedol, a’n creadigrwydd lleol.
Ardal Gwesty a Hamdden
Gwesty ‘ffordd o fyw’ 80 gwely gydag adnoddau â gogwydd corfforaethol a phriodasol.
Tref Caerffili 2035
Rydyn ni eisoes ar y trywydd iawn i wneud Tref Caerffili yn fwy hygyrch, gyda chysylltiadau da, ac yn gynaliadwy. Fe wnaeth Ffos Caerffili nodi’r cam cyntaf o’r prosiect adfywio – ac mae cymaint mwy ar y gweill.